Hugh Davies

Iaith: Cymraeg
Rheng a Rhif: Private 37011
Catrawd: RWF 16eg Fataliwn
Mynwent / Cofeb: Cofeb Thiepval, Somme, Ffrainc (Pier a Wyneb 4A)
Cofebau eraill: Cofgolofn Ysbyty Ifan

Hugh Davies

Marwolaeth

Gorffennaf 16eg 1916 yn 24 mlwydd oed ym mrywdr Esgair Bazentine (rhan o cyfnod cyntaf Brwydr y Somme, 16 diwrnod i mewn i fwydr a barodd 141 o ddyddiau!)

http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/755814/DAVIES,%20HUGH

Llythyr o Ffrainc, 1916

Bywyd / Cefndir:

Mab David a Catherine (Kitty), 3 Glan y Porth, Ysbyty Ifan, a brawd iau i Alice, Thomas, David ac Ann.
Yn 1901 gwelir y teulu’n byw yn Rhif 5 Tai Newyddion, ‘Sbyty, ac erbyn cyfrifiad 1911 mae Hugh i’w weld yn gweithio fel gwas fferm uniaith Gymraeg ym Mhlas Ucha, ‘Sbyty.
Mae’n son yn ei gerdd goffa ei fod hefyd yn aelod ffyddlon o Gapel Ysbyty Ifan.

Mae llythyr gan Ted Beattie, Bryn Amlwg, Pentrefoelas (cafodd yntau ei saethu drwy ei foch ym Mametz Wood ond bu oroesi) sy’n ymddangos ym mhapur ‘Baner ac Amserau Cymru’ ym Mehefin 1916 yn sôn ei fod yntau a Hugh Davies wedi cyrraedd Ffrainc nos Wener Mai 26ain 1916 ar ol hyfforddi yn Kinmel efo’u gilydd. Dim ond 20 diwrnod yn ddiweddarach roedd Hugh wedi colli ei fywyd.

Yn 1901 gwelir y teulu’n byw yn Rhif 5 Tai Newyddion, ‘Sbyty, ac erbyn cyfrifiad 1911 mae Hugh i’w weld yn gweithio fel gwas fferm uniaith Gymraeg ym Mhlas Ucha, ‘Sbyty.

Cerdd Goffa