YNGLYN Â'R PROSIECT

Mae ‘Conwy a’r Rhyfel Mawr’ yn brosiect gan Fenter Iaith Conwy a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi bod yn archwilio ac yn ymchwilio’r gwahanol ffyrdd yr effeithwyd ar ardal wledig sir Conwy gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Amrywiai hyn o hanesion unigolion i’r darlun ehangach; yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar ddynameg gymdeithasol y plwyfi yn ogystal â chynnig cipolwg ar sut lefydd oedd cymunedau’r ardal o ran diwylliant ac agwedd ganrif yn ôl. Nod y prosiect yw cyfuno gwybodaeth o ffynonellau bodoledig gydag ymchwil newydd dirfaith i greu arddangosfa deithiol, llyfr, cynhyrchiad drama — a’r wefan hon. Y gobaith yw bod yr allbynnau yma’n adnoddau teilwng a chynhwysfawr yn cofnodi’r hanesion angof a’u cyflwyno i’r cyhoedd: nid rhywbeth sydd wedi bodoli eisoes yn yr ardal hon.

Un o’r amcanion yw portreadu’r cwympedig fel pobl o’u cymunedau yn hytrach na rhestr o flaenlythrennau a rhifau milwrol — a hyn oll o safbwynt Cymreig yn hytrach nag un filwrol Brydeinig.

Mae’r dasg o geisio olrhain hanesion y dynion (a’r merched) gymerodd ran yn y rhyfel — gyda phwyslais ar y rhai a gollwyd — wedi bod yn un anferth a diddiwedd, a’r her i fesur a chyflwyno’r wybodaeth ynglŷn â’r ôl gadawodd y Rhyfel Mawr ar Gonwy wledig yn un anoddach fyth. Un her oedd y ffaith bod cynifer o ddynion gyda’r un enwau, a heb unrhyw wybodaeth arall yn perthyn iddynt. Un arall oedd penderfynu o ba blwyf neu bentref oedd rhai milwyr ‘yn dod’; er enghraifft, os ganwyd milwr yn Llansannan, magwyd ef yng Ngwytherin, bu’n byw yn Eglwysbach am rai blynyddoedd yn gweithio, cyn priodi ychydig flynyddoedd cyn y rhyfel a symud i fyw i Lanrwst, yna ym mha adran mae’n ‘perthyn’? Y datrysiad oedd ceisio blaenoriaethu ymhle cafodd ei fagu (os oedd y wybodaeth oedd i law yn caniatau), neu, fel arall, ymhle cafodd ei eni. Ond, yn aml, yr unig gliw o ran lleoliad oedd y cyfeiriad buont yn byw ynddi pan fuont ymrestru — sy’n medru bod yn gamarweiniol.

Gyda chymorth adnoddau gwych y wê a chyfraniadau nifer o brosiectau a mudiadau cenedlaethol yn ogystal â degau ar ddegau o bobl leol rwyf wedi datblygu casgliad aruthrol o wybodaeth.

O ganlyniad i sawl apêl am wybodaeth drwy gyfryngau cymdeithasol y prosiect ac yn y wasg leol — ynghyd â chyfres hynod ddiddorol o gyfarfodydd a chyflwyniadau cyhoeddus ym mhob cwr o ardal wledig y sir — daethom ar draws y rhan helaeth o’r deunydd sydd i’w weld yn allbynnau’r prosiect hwn. Bum hefyd yn cyd-weithio gydag ysgolion uwchradd lleol (Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol y Creuddyn) yn ystod yr ymchwil a phrosiect y cynhyrchiad drama. Ceir rhestr hirfaith o’r holl rai bu o gymorth amhrisiadwy i mi yn adran ‘Cyfranwyr’ y wefan. Yna, yn ogystal, ceir rhestr gyflawn o’r gwefannau a’r llenyddiaeth bu’n ffynonellau hysbysiaeth benodol a chefndirol i mi.

Mae’n bwysig i mi esbonio ambell beth ynglyn â threfniant a strwythur y prosiect a’r wefan:

Yn wreiddiol (dwy flynedd yn ôl), y nod oedd ymchwilio a gwerthuso’r effaith drwy’r sir gyfan; ond daeth yn amlwg yn fuan ni fuasai’n bosib i mi wneud cyfiawnder i’r prosiect wrth daflu’r rhwyd mor eang. Roedd niferoedd y meirw yn nhrefi’r arfordir (yn enwedig yn Llandudno a Bae Colwyn) yn sylweddol a gan fy mod yn gweithio i derfyn amser cymerais y penderfyniad anodd i gyfyngu’r ymchwil i ardal wledig sir Conwy. Golyga hyn i mi fedru archwilio’r straeon yn ddyfnach yn hytrach nag ond crafu’r wyneb.

Er mwyn eglurder daearyddol, mae hanesion y milwyr a gollwyd wedi cael eu dosbarthu yn ôl ardaloedd cymunedau gwledig Conwy heddiw, yn hytrach nag o fewn ffiniau’r plwyfi fel yr oeddynt ganrif yn ôl.

Man cychwyn fy ymchwil yn y mwyafrif o achosion oedd yr enwau sydd ar y cofebion rhyfel yn y gwahanol bentrefi. Yn fuan iawn fodd bynnag, daeth i’r amlwg na ellid dibynnu gormod ar y cofebion hyn fel fframwaith ar gyfer yr hanes. Mae hyn oherwydd bod amryw o’r cofebion yn cynnwys enwau milwyr o’r tu allan i’r gymuned honno, gydag ambell filwr yn cael ei enwi ar fwy nag un gofeb, a chryn dipyn o filwyr nad yw eu henwau ar unrhyw gofeb. Bydd pob cofeb yn cael sylw amlwg, ond nodir hefyd unrhyw fylchau, amheuaeth neu ailadrodd o’r fath. Wedi dweud hyny, mae nifer o ddynion yn enedigol o du allan i ardal sir Conwy sydd wedi’u henwi ar gofeb yma wedi’u cynnwys.

Rwyf wedi ceisio talu sylw teg i bob milwr o bob ardal, ond — yn anochel — mae’r wybodaeth daeth i law yn amrywio’n aruthrol o ddyn i ddyn ac o ardal i ardal.

Gwnaed pob ymdrech i sichrau cywirdeb o ran y wybodaeth ac i gydnabod tarddiad y deunydd a’r gwybodaeth — ond, os sylwch ar unrhyw gamgymeriadau peidiwch ag oedi i gysylltu.

Mae rhai o’r hanesion mwy cyflawn a thrawiadol i’w gweld yn yr arddangosfa, trosolwg o bob un o’r meirw (ynghyd ag agweddau a straeon eraill) ar gael yn y llyfr, a bydd bron pob un darn o wybodaeth a deunydd yn ymwneud â’r meirw ac unrhyw straeon cysylltiedig yn cael eu cynnwys — dros amser — ar y wefan.

Er i’r llyfr gael ei argraffu, nid dyma ddiwedd yr ymchwil. Os oes gennych chi ragor o wybodaeth am unrhyw unigolyn neu bwnc sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd o Gonwy wledig a’r Rhyfel Mawr, yna, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy ebost a chaiff y deunydd ei ychwanegu i’r wefan.

Nid oedd y wefan hon yn rhan o’r grant HLF gwreiddiol, felly roedd yn rhaid dod o hyd i gyllid ychwanegol er mwyn galluogi i www.conwyrhyfelmawr.org gael ei wireddu; diolch o galon i Gronfa Bro Garmon, Ymddiriedolaeth Crafnant a Chyngor Cymuned Ysbyty Ifan am eu cyfraniadau.

– Eryl Prys Jones
eryl@miconwy.org