Trefriw

 

Mae Trefriw yn bentref o gymharol faint ger lan orllewinol yr Afon Conwy, yn ymestyn o lawr y dyffryn i fyny am Gefn Cyfarwydd a Chwm Crafnant. Cei Trefriw oedd y pellaf i fyny’r afon ‘roedd y cychod stêm yn medru cyrraedd. Roedd hyn yn hwb i’r diwydiannau lleol (megis y chwareli llechi ymhellach fyny’r dyffryn, y pyllau plwm, sinc a sylffwr lleol ynghyd â Melin Wlân Trefriw), yn ogystal â chludo twristiaid i’r pentref.
Dywedir i Llywelyn Fawr gael lety hela a chwrt yn yr ardal. Yn ôl traddodiad, adeiladodd, hefyd, eglwys wreiddiol Trefriw (ar safle’r un fwy diweddar) i arbed ei wraig Siwan rhag gorfod cerdded y llwybr serth yr holl ffordd i fyny i Eglwys Llanrhychwyn. Sefydlwyd eglwys hynafol Sant Rhychwyn — sy’n sefyll tua 700 o droedfeddi uwchben Trefriw — yn y 6ed ganrif, ac mae sôn mai hi yw’r hynaf yng Nghymru. Mae’r eglwys (a’r sant) yn rhoi ei enw ar bentref bychan a chymuned amaethyddol Llanrhychwyn. Mae llynnoedd deniadol Geirionnydd a Chrafnant yn gorwedd yng ngogledd y plwyf.
Ymhlith enwau’r 19 o ddynion a ymddengys ar y senotaff yng nghanol Trefriw mae saith ohonynt yn frodyr o dri gwahanol deulu.

Rhagor o fanylion i ddilyn…