Llanrwst

 

Cymru, Lloegr, Ffrainc, Fflandrys, Twrci, Mesopotamia, Yr Aifft, Palesteina a Llanrwst
Tref farchnad hanesyddol yw Llanrwst — a chanolbwynt Dyffryn Conwy i bob pwrpas. Datblygodd yn ganolfan fasnach i bobl y dalgylch oherwydd ei phellter o Gonwy! Gosododd Edward y 1af reol yn gwahardd unrhyw Gymry rhag masnachu o fewn 10 milltir i’r dref gaerog ‘Saesneg’, ac felly, gan fod Llanrwst rhyw 13 milltir i ffwrdd lleolir mewn man berffaith i fanteisio. Yn ddiweddarach daeth yn enwog am ei gwneuthurwyr clociau a thelynau yn ogystal. Adeiladwyd y Bont Fawr urddasol dros yr Afon Conwy yn 1636; mae hon y parhau fel symbol adnabyddus o’r dref hyd heddiw, a bu’n pontio dwy sir (a dau awdurdod cyfreithiol!) ar adeg y Rhyfel Mawr. Rhedai Sir Gaernarfon i fyny’r rhan helaeth o lan orllewinol yr Afon Conwy, a Sir Ddinbych gyferbyn.
Roedd gan Lanrwst boblogaeth o tua 2,600 ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf (tua 3,300 ydyw heddiw), â mymryn dros hanner rhain yn ddynion. Tybir i dros 600 o’r rhain wasanaethu yn y rhyfel — a ni ddaeth nifer enfawr ohonynt yn eu holau.
Saif cofgolofn Llanrwst ar Heol Dinbych yn y dref; arni mae 85 o enwau! Yn ogystal â’r cwympedig o’r dref ei hun, enwir meirw hen blwyf ‘Llanrwst Rural’ (sef Bro Garmon heddiw), rhai o ardaloedd Llanddoged a Maenan, yn ogystal â nifer o fechgyn magwyd mewn pentrefi cyfagos ond bu’n gweithio yn y dref. O ganlyniad, wrth fanylu ar dref Llanrwst yn hytrach na’r dalgylch, gallwn dynnu 27 oddi ar y ffigwr gwreiddiol.

Rhagor o fanylion i ddilyn…