Llannefydd

 

Mae Llannefydd yn bentref a chymuned sydd heddiw’n eistedd yng Ngogledd Ddwyrain Sir Conwy, ger y ffin â Sir Ddinbych. Brodor mwyaf adnabyddus yr ardal yw’r dramodydd a’r bardd Twm o’r Nant a anwyd yn Llannefydd yn 1738. Darganfuwyd esgyrn bachgen Neanderthal yn dyddio yn ôl 230,000 mlynedd mewn ogof yn y plwyf — y gweddillion dynol hynaf i gael eu darganfod yng Nghymru erioed.
Ond, meirw’r ardal o 229,900 blynedd yn ddiweddarach rydym am fanylu arnynt yma; mae 6 enw ar gofgolofn y pentref, ac ‘rwyf wedi dod ar draws un bachgen arall sydd wedi ei fethu oddi arni.

Rhagor o fanylion i ddilyn…