Llangwm

 

Plwyf mwyaf deheuol y sir yw Llangwm, gyda chymunedau Dinmael, Maerdy, Tŷ Nant, Glan-yr- afon a Gellioedd — yn ogystal â phentref Llangwm ei hun — yn rhan ohoni.

Ardal amaethyddol ydyw heddiw, ac felly y bu hefyd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, gyda phoblogaeth o 742 yng nghyfrifiad 1911. Rhan o’r hen sir Feirionnydd ydoedd ar y pryd, ac (fel y rhan helaeth o ardal wledig y rhan yma o’r byd) yn gadarnle i’r iaith Gymraeg a’r ‘pethe’ Cymreig. Bu’r plwyf gwledig hwn yn Uwchaled hefyd yn flaengar yn nhrafferthion Rhyfel y Degwm ychydig ddegawdau cyn y Rhyfel Mawr.
Collwyd 17 o amaethwyr, beirdd, cantorion a boneddigion ardal Llangwm yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan daflu cysgod trwm dros y plwyf hanesyddol hwn. Roedd 13 ohonynt yn fechgyn di-briod, 2 yn wŷr priod — 1 o’r rhain yn dad — 2 yn anhysbys, a phob un ac eithrio 3 yn siaradwyr Cymraeg.

Wynn Parr Lynes, Llangwm

Mab y Colonel Samuel Parr Lynes a Florence Lynes (perchnogion stâd Garthmeilio). Mae gwreiddiau’r teulu Lynes o swydd Warwick, a daethant i Garthmeilio oherwydd i’r Parchedig John Lynes briodi merch hynaf John Wynn o Wydir yn 1822- Caroline- oedd yn byw yno.

> Proffil Wynn Parr Lynes

John Wiffen, Llangwm

Mab i Arthur a Matilda Wiffen o Church Street, Belchamp St Paul’s. Gwelir ef yn weithiwr fferm yn Essex yng nghyfrifiad 1911. Am ychydig flynyddoedd cyn y rhyfel roedd yn weithiwr ym mhlasdy Garthmeilio; mi ymrestrodd yn wirfoddol yn Wrecsam tra’n byw yn Llangwm.

> Proffil John Wiffen

Thomas Jones, Glyn Ceirw

Mab John ac Ann Jones, Siop Bach. Cafodd ei eni yn Llangwm.
Yn anffodus, roedd gweld Cymro ddosbarth-gweithiol yn Gorporal yn beth reit brin ar y pryd, a roedd yn destyn gryn edmygedd yn yr ardal leol o ganlyniad.
Ni wyddwn lawer ynglyn a’i fywyd cynnar na’i yrfa filwrol, ond mae’n bosib iddo ymaelodi â’r lluoedd arfog cyn y rhyfel- roedd yn Gorporal erbyn 1917.

> Proffil Thomas Jones

David Ellis, Penyfed

Ganed David Ellis ar Chwefror 1af 1893, yn ail blentyn i Thomas ac Elizabeth Ellis (Elinor oedd y gyntaf, John y drydedd, Catherine (Kate) y bedwaredd, a Henrietta (Etta) y bumed). Roedd ddwy ochr y teulu yn rai â gwreiddiau dwfn yn ardal Llangwm, yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth.

> Proffil David Ellis

Rhagor o fanylion i ddilyn…