David Ellis

Iaith: Cymraeg a Saesneg
Catrawd: Y Corfflu Meddygol Frenhinol (Royal Army Medical Corps)
Rheng a Rhif: Private, 81871
Mynwent / Cofeb: Cofeb Doiran, Groeg (Panel Addenda)
Cofebau eraill: Capel Dinmael, Cofeb Llangwm

David Ellis graddedig 1913

Marwolaeth

?

“15/06/1916 yn 25 oed” yn ol y CWGC, ond nid yw mor syml a hynny. Mae beth ddigwyddodd iddo mewn gwirionedd yn ddirgelwch hyd heddiw.

Cyn crybwyll y damcaniaethau ynglyn a’i dynged, mae’n deg esbonio ei hanes a’i gefndir ynghyd a’i amgylchiadau, ei sefyllfa a’i deimladau yn yr wythnosau’n arwain i fyny at Fehefin 15fed 1918.
Mae mwyafrif ydeunydd isod wedi ei gymryd o’r llyfr “Y Bardd a Gollwyd- Cofiant David Ellis” gan Alan Llwyd ac Elwyn Edwards (Cyhoeddiadau Barddas 1992)

http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/75450638/ELLIS,%20DAVID

Bywyd / Cefndir:

Ganed David Ellis ar Chwefror 1af 1893, yn ail blentyn i Thomas ac Elizabeth Ellis (Elinor oedd y gyntaf, John y drydedd, Catherine (Kate) y bedwaredd, a Henrietta (Etta) y bumed). Roedd ddwy ochr y teulu yn rai â gwreiddiau dwfn yn ardal Llangwm, yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth.
Roedd ei dad yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol yr ardal- yn lywydd nifer o Eisteddfodau ac yn gadeirydd sawl cynghor.
Roedd fferm y teulu- Penyfed- yn fferm stâd y Cyrnol Mainwaring ger Afon Ceirw a Phont y Glyn (Tŷ Nant), gyda Thomas Ellis yn denant yno o 1889 (pan briododd Elizabeth a symud yno) hyd ei farwolaeth yn 1935.

Y Fyddin:

Ar ddechrau 1916 ffurfwyd uned Gymreig o’r Corfflu Feddygol (Royal Army Medical Corps / RAMC) ar gyfer gweinidogon, darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon- o dan arweiniad Syr Owen Thomas, gyda chymorth y Parch. John Williams, Brynsiencyn.
Mae sôn bod Dei wedi ffraeo hefo’i dad tuag adeg y Nadolig; roedd ansefydlogrwydd ei waith a’r ffaith bod gorfodaeth filwrol ar y ffordd yn fuan (ble nid oedd posib dewis i ba adran yr hoffech ymuno) debyg yn pwyso arno yn ogystal, ac fe ymrestrodd David Ellis- yr heddychwr cydwybodol- i’r Corfflu Meddygol yn Neuadd y Dre, Rhyl ar Ionawr 28ain 1916.

Aeth yr uned (a llysenwyd yn ‘God’s Own’ unit) i hyfforddi i Sheffield, gan orymdeithio/cerdded trwy Fanceinion i newid trenau ar y ffordd yna, yn canu emynau Cymraeg. Roedd sawl un yn y cwmni yn rhannu diddordeb Dei mewn barddoniaeth, megis ei hen gyfaill o’r brifysgol Lewis Valentine a Cynan (Albert Evan Jones- aeth ymlaen i fod yn un o feirdd blaengar Cymru); roeddent hefyd yn aelodau o gôr yr uned. Aethant i lawr hyfforddi i Landrindod ym mis Chwefror, ac yno cynhalwyd cyngerdd a chinio Gwyl Ddewi- yma darllennodd Dei Ellis un o’i ddarnau gorau, y cywydd “Gwyl Ddewi 1916”. (Dyma ond ei chychwyn a’i diweddglo):

Bro dawel llwybrau Dewi,
Suon siom sy’ yn ei si;
Ei cherydd a’i meysydd mêl
A wŷr ofid y rhyfel.

Yr awel megis telyn
A gân drwy wig, ond er hyn
Ni ddeffry hi feddau Ffrainc,
Na nwyf eu meirwon ifainc.

Dychwelodd i Benyfed ar Fawrth 22ain ar gyfer priodas ei chwaer hynaf- Margaret Elinor. Gwisgai ei lifrau byddin ar gyfer yr achlysur- yn groes i’w ewyllus efallai? Mae’n bosib mai yn ystod yr ymweliad yma taniodd bethau rhyngddo a Gwen Roberts, o Gefn Post Llanfihangel- mae sôn ychydig fisoedd yn ddiweddarach eu bod yn gariadon.
Yn ôl i Sheffield wedyn ar gyfer hyfforddiant trin cleifion maes y gad yn ysbytai’r ddinas; mae’n syndod (ac yn arswydus braidd) mai darn mor fechan o’r paratoadau oedd hyn, gan ystyried mai dyna ddyletswydd yr uned yn y rhyfel!
Roedd y bwyd gwael a dull garw ac anfoesgar rhai o’r swyddogion yn peri cryn anghysur i Dei a’i gymrodorion diwylliedig, diwinyddol a chrefyddol.
Ymwelodd ei dad ag ef yn Sheffield tua Gorffennaf 1916- arwydd calonogol bod eu perthynas yn gynhesach wedi’r ffrae adeg y ‘dolig.

Dychwelodd Dei i Benyfed hefyd o leia unwaith rhwng hynny ac ymadawiad yr uned am y gad; erbyn Medi 1916 roedd yr uned yn barod, a gwasgarwyd y cwmni i wahanol ffryntiau’r brwydro. Aeth tua 150- gan gynnwys Dei a Cynan- i Salonica ym Macedonia ar fwrdd y llong Essequibo ar Fedi’r 10fed. Cafwydd cyngerdd ar y llong yn ystod y mordaith deuddeg diwrnod, ond mae sôn bod Dei yn cychwyn hiraethu am Gymru hyd yn oed cyn cyraedd!
“Cyn delwyf i Gymru’n ôl, fy ffrind,
Cyn delwyf i Gymru’n ôl,
O! Bydd glaswellt dros fy llwybrau i gyd
Cyn delwyf i Gymru’n ôl” – canodd ef o ganol Môr y Canoldir.

Roedd y Prydeinwyr a’r Ffrancwyr allan yn ardal Salonica i gynorthwyo Serbia mewn man yn agos i’r ffîn â Bwlgaria (cynghreiriaid â’r Almaen).
Glanwyd ar Fedi’r 22ain, ac ar y 28ain anfonwyd ef i’r 38th Field Hospital i weini clwyfion o fyddin Serbia yn bennaf, mewn man ar gwr Vertekope, rhwng dinasoedd Salonica a Monastir.

Er y gwres, yr afiechyd, yr hylendid gwael a’r hiraeth bu Dei Ellis yn difyrru’r cwmni gyda chynghaneddion a cherddi clyfar a chellweirus am bob math o sefyllfeydd, ac wedi gwneud nifer o ffrindiau!
Yn anffodus bu iddo golli 2 o’r cyfeillion yma o afiechyd cyn diwedd 1917, a bu yntau hefyd yn sâl hefo malaria am gyfnod go’ hir yn ystod Hydref a Thachwedd y flwyddyn honno.
Ymddengys i 1917 fod yn flwyddyn reit ddiflas, caled a llwm i Dei (a’r hanner o 1918 a welodd o’r gwersyll yn waeth fyth), ond roedd ei ddawn a’i awen farddonol (a’i lyfr nodiadau) yn rhywbeth a adwaenai rhag llwyr ddigalonni- er i gynnwys lawer o’r cerddi fod yn hiraethus ac yn anhapus.

Dyma ‘Cysgodion yr Hwyr’- un o’i gerddi enwocaf o’r cyfnod yma, ac un o’r olaf iddo orffen ei hysgrifennu:

Llanw’r nos dros erwau galar,
Hoen a gobaith dan ei li,
Ysbryd braw yn crwydro‘r ddaear,
Tristwch yn fy mynwes i.

Dristed yw’r Olympus heno!
Hyd ei frig yr wyla’r gwynt,
Nid yw’r duwiau mwy’n ymrithio
Yn ei ledrith megis cynt.

Chwiban bugail ar y drumell
Eilw’i braidd i’r hafod glyd,
Rhywun unig yn ei babell
Gofia ddefaid bore‘i fyd.

Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd,
Pell y wawr a’r nos yn hir,
Hiraeth bron am wynfyd mebyd
Hwnt i gaerau Monastir.

Sŵn y fagnel ar y bryniau,
Gwaed y dewr ar dwf y rhos,
Angau’n casglu ei ysgubau
Cyn aeddfedu gyda’r nos.

Pan ddaw cwsg i gau’m hamrannau
Crwydra’m hysbryd dros y bryn,
Hoffa ddianc at y blodau
Dyf o bobtu Pont y Glyn.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarch diflannodd Dei Ellis, Penyfed oddi ar wyneb y ddaear; ar ôl ysgrifennu’r gerdd uchod, dim ond yn ei gwsg yn nyfnderoedd Macedonia y gwelodd Bont y Glyn.

Yn ôl adroddiadau ei gyfeillion (cyd-‘filwyr’) roedd Dei wedi bod yn dioddef o iselder ysbryd ers rhai misoedd; nad yw hyn yn beth anarferol yn amgylchiadau’r rhyfel (er nad oedd ar faes y gad), ond roedd gwahaniaeth yn ymddangos rhwng digalondid y lleill ac anobaith Dei Ellis.

Cyfrannodd amryw o ffactorau tuag at hyn:
Tua mis cyn ei ddiflaniad mi drôdd y fyddin yn ôl ar eu haddewid, gan gynllunio i drosglwyddo nifer o aelodau’r RAMC (a’r rhan helaeth o’r rhain yn wrthwynebwyr cydwybodol ac yn heddychwyr) o’r ysbytai i faes y gad. Ond, achubwyd ef rhag gorfod mynd yn gwbl groes i’w egwyddorion (ymladd) drwy ymyrraeth ei gyfaill R. Howell Williams- gŵr gyda chysylltiadau ymysg yr uwch-swyddogion- ac fe’i drosglwyddwyd i ysbyty arall. Er iddo osgoi gorfod ymladd ar yr achylsur yma, roedd yn poeni y bysa’r fyddin yn ceisio ei drosglwyddo eto yn y dyfodol; achosodd hyn gryn bryder iddo. Wrth iddo ymadael am ei ysbyty newydd a ffarwelio a’i gyfaill J. H. Griffith, mi roddodd Dei swp o’i bapurau iddo ‘er mwyn iddynt gyrraedd adra’n ddiogel’- arwydd efallai nad oedd ganddo lawer o ffydd y byddai’n dychwelyd.

Roedd nifer o bethau ynglyn a’i amgylchiadau yn Salonica yn ei boeni hefyd (er, roedd pawb oedd yno’n gwasanethu’n wynebau yr un anhawsterau): y gwres, y pryfed, y budreddi, y diffyg bwyd maethlon, bygythiad cyson malaria a dysentry (bu iddo ddioddef o’r rhain sawl gwaith), trin clwyfau erchyll (a rhai gwerenol, anfoesol), ymysg pethau eraill. Mi gollodd ddau o’i ffrindiau oedd hefyd yno’n gwasanethu o afiechyd tua diwedd 1917. Disgrifiodd y bywyd yno fel un ‘dirywiol’; mae’n debyg mai nid yr amgylchiadau yma oedd achos ei anobaith, ond roedd yn anoddach iddo ymdopi a’r broblem ganlynol o’u oherwydd…

Roedd Dei wedi bod yn pryderu’n ofnadwy ers tipyn am y diffyg llythyrau gan ei gariad, Gwennie Roberts. Yna, ychydig ddyddiau cyn ei ddiflaniad, derbynnodd lythyr ganddi yn dweud bod pethau rhyngddynt drosodd a’i bod bellach wedi dyweddïo gyda fferyllydd o Birkenhead. Wrth reswm, mi dorrodd hyn ei galon, a dyfnhaodd ei iselder.
Bu ei ffrindiau’n ceisio codi ei ysbryd, ond yna penodwyd ef yn ‘blismon nôs’ a’i symudwyd i babell wahanol, unigol- oddi wrth ei gyfeillion. Mae’n debyg bod hyn wedi gwaethygu ei sefyllfa.

Yn ôl ei ffrind R. Howell Williams, dychwelodd yntau a chyfaill arall o’u shifft tua 4 neu 5 o’r gloch y prynhawn ar Fehefin 15fed a galw heibio pabell Dei (roedd Dei yn cysgu yn y dydd gan ei fod yn gwneud shifftiau nôs ar y pryd), ond doedd dim golwg ohono yn unlle. Roedd wedi gadael ei holl eiddo yn ei babell- gan gynnwys ei identity disks (roedd tynnu rhain yn drosedd filwrol ddifrifol). Anfonwyd ‘search parties’ allan i chwilio amdano, ond dim lwc. Ni ddaethpwyd o hyd iddo yn fyw nac yn farw; mae ei dynged yn ddirgelwch.

Beth ddigwyddodd i Dei Ellis?

(Ewch drwy’r 4 senario posib…)

Bod lladron lleol wedi ei lofruddio wrth iddo gerdded yn y mynyddoedd ger y gwersyll. Yn ôl adroddiadau papur o’r cyfnod, roedd hanes o’r lladron lleol yn ymosod ar y trŵps Prydeinig. Mae’n bosib (ond yn eitha anhebygol, yn enwedig gan ei fod wedi tynnu a gadael ei ddisgiau adnabod) mai dyma ddigwyddodd i’r bardd o Benyfed- bysa’r ysbeilwyr yma’n gyfarwydd gyda phob twll a chornel anhygyrch, sydd efallai’n esbonio diffyg corff.

Damwain wrth iddo gerdded yn y mynyddoedd. Er ei fod yn gerddwr mynyddoedd profiadol, nid oedd ond wedi bod yn yr ardal hon ers ychydig wythnosau- dim digon hir i ddod i adnabod y mynyddoedd garw a pherygus yn dda. Mae’n bosib, felly, iddo fynd ar grwydr cyn ei shifft nôs a disgyn i’w farwolaeth mewn man anghysbell gwbl anhygyrch (e.e. un o’r nifer o geunentydd a’r agennau cul a dwfn). Esboniad posib, ond unwaith eto ymddengys fel cyd-ddigwyddiad mawr gan ystyried y dystiolaeth flaenorol.

Ymuno â llwyth sipsiwn neu frodorion y wlad, a cefnu ar y fyddin (dyma’r syniad defnyddwyd gan ei gyfaill- Cynan- yn ‘Ffarwel Weledig’, sef llyfr a seilwyd ar David Ellis). Damcaniaeth anhebygol a rhamantus ar yr olwg gyntaf, ond nid un gwbl ddi-sail. Meddai R. Howell Williams: “Mae côf gennyf iddo (David Ellis) ddweyd wrthyf yr adeg honno y gallai dyn ymgolli yng nghanol brodorion y wlad fel nas gallai yr awdurdodau fyth gael gafael arno”. Yn ôl adroddiadau, roedd llwythi enfawr o sipsiwns yn mudo yr adeg honno o’r flwyddyn, ac yn pasio gerllaw’r gwersyll yn aml.

Yn ymarferol bysa Dei unai wedi cerdded i bentref gyfagos neu wedi dianc efo’r sipsiwn crwydrol; ond, mae dadleuon ynghylch y ddamcaniaeth yma. Mae’n hynod amheus y byddent yn derbyn estron mewn lifrau milwrol i’w mysg mor rhwydd a hynny. Hefyd, mae’n rhyfedd iawn na fu unrhyw gyswllt rhyngddo a’i deulu (oedd mor bwysig iddo), a mae’n anodd credu bod gwladgarwr angerddol fel yntau yn medru dygymod â peidio byth dychwelyd i Gymru.

Efallai ei fod yn bosib (wrth i fy nychymyg gymryd drosodd!) ei fod wedi ceisio ymuno â rhyw lwyth, a nhwythau wedi ei ladd? Neu, ei fod wedi medru ymuno â nhw ond wedi methu anfon llythyr adref am beth amser oherwydd diffyg system bôst, a’i fod unai wedi marw o afiechyd neu cael ei ladd wrth geisio cysylltu â’r byd allan neu ddianc? Dos wybod, mae’n ddamcaniaeth sy’n goleuo’r dychymyg, ond yn hollol amhosib profi unrhywbeth.

Hunanladdiad. Yn anffodus, mae’r dystiolaeth yn pwyntio’n weddol gryf tua’r cyfeiriad yma. Roedd y problemau a’r pryderon a sonwyd amdanynt uchod yn pwyso’n drwm ar ei feddwl, a mae ambell nodyn yn ei lyfr nodiadau (ynghyd â sylwadau ei gyfeillion) yn awgrymu stâd feddyliol ansefydlog. “Mors vitae canua (Paham yr ofnwn angau?)” ebe un sylw yn ei nodiadau.
Clywodd ei ffrind Lewis Valentine gan un o gymrodorion Dei ei fod wedi prynnu gwn gan Serb peth amser ynghynt; os ydyw hyn yn wir, efallai felly mai saethu ei hyn y gwnaeth mewn hafn eu ogof gudd?
Efallai mai boddi ei hyn mewn llyn neu afon bu ei dynged?
Neu efallai mai taflu ei hyn o gopa mynydd neu glogwyn, neu i berfeddion ceunant ddyfn y gwnaeth?
Yn wir, mi adawodd ei ddisgiau adnabod ar bwrpas am reswm, ond os yr hiraethai gymaint am ei gartref a’i deulu, ac os yr awchai cyn gryfed i ddychwelyd, pam lladd ei hyn?

“Ar Goll”

Ni dderbyniodd ei dad, Thomas Ellis, farwolaeth ei fab erioed; roedd drws Penyfed ar agor ganddo bob awr rhag ofn i Dei ddychwelyd, a pe bai rhywun yn dod trwy’r drws ac yntau allan o’r golwg byddai’n ynghan enw ei fab yn obeithiol. Pan bu farw Thomas Ellis yn 1935, yn ei ewyllus roedd Dei arni fel un o’i etifeddion.
Y flwyddyn wedi i Dei ddiflannu, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Gorwen, a testyn yr awdl oedd ‘Y Proffwyd’. Yn rhyfedd, mae nodiadau ar y testyn hwn yn llyfr nodiadau David Ellis- mae’n rhaid bod ei dad wedi cael gwybod y testyn rhywsut a dweud wrtho mewn llythyr. Yn dilyn y feirniadaeth a’r cyhoeddiad, bu Thomas Ellis yn archwilio llawysgrifen yr awdlau anfuddugol gan obeithio gweld ysgrifen ei fab- ond yn ofer.

Ysgol Dinmael

Prifysgol Bangor, 1910

Prifysgol Bangor, 1913

Dei Ellis, Yr Athro, 1914

Dei Ellis, Milwr, 1916

Priodas Margaret Elinor, 1916

Dei Ellis a Cynan ar fwrdd y llong, 1916

Dei Ellis yn ei wisg filwrol, 1917

Gwennie

Bedd y teulu, Capel Dinmael