Henryd a Llangelynnin

 

Mae plwyf Henryd yn gorchuddio arwynebedd hen blwyf Llangelynnin, fwy neu lai. Goroesa’r enw gyda hen eglwys Llangelynnin (yn uchel ar fynydd Tal y Fan), yr eglwys ‘newydd’ rhwng Ro-wen a phentref Henryd, a’r ysgol gynradd yn Henryd. Gorweddai’r ardal ar lethrau gorllewinol Dyffryn Conwy rhwng plwyf Caerhun a mynydd a bwlch Sychnant. Yn ogystal â Henryd ar y tir îs, ym mhen uchaf y plwyf saif cymuned Llechwedd.
Hyd y gwyddwn, nid oes yr un gofeb na chofgolofn ar gyfer holl feirw Rhyfel Mawr yr ardal, ond ymddengys ddwy restr o enwau ar Gofeb Arwyr Gogledd Cymru, ym Mangor; dau enw o dan benawd ‘Llangelynnin’ a thri o dan benawd ‘Llechwedd’. Gan fod y ddwy gymuned yn disgyn o fewn plwyf Henryd heddiw, rwyf am eu cynnwys gyda’i gilydd.

Rhagor o fanylion i ddilyn…