Dolwyddelan

 

Tri dyn ar ddeg ym mhedwar ban
A dau dan dir Do’ddelan

Pentref bychan a chymuned amaethyddol yn Nyffryn Lledr (yn ne Sir Conwy) yw Dolwyddelan. Mae Moel Siabod yn esgyn i’r gogledd-orllewin, tra bod ffordd yr A470, rheilffordd Dyffryn Conwy a’r Afon Lledr yn rhedeg drwy’r pentref ei hun. Rhwng y pentref ac ardaloedd deheuol, anghysbell Dyffryn Lledr (Blaenau Dolwyddelan a Roman Bridge) saif Gastell Dolwyddelan. Roedd yn un o gestyll Tywysogion Gwynedd ac yn fan geni i Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad.

Rhagor o fanylion i ddilyn…