Capel Curig

 

Pentref a chymuned yng nghanol mynyddoedd Eryri ac ar ymyl gogledd orllewin sir Conwy yw Capel Curig. Fel Betws-y- coed, datblygodd Capel Curig fel pentref goets fawr a chanolfan i ddringwyr a cherddwyr yn sgil penderfyniad Thomas Telford i redeg ei briffordd Llundain-Caergybi (yr A5 heddiw) drwyddi yn yr 1820au. Hyd yn oed cyn hyn atynnodd harddwch garw’r ardal rai o arlunwyr tirluniau mwyaf blaengar Prydain, megis yr enwog JMW Turner.

Mathew Hughes, Bryn Llys Uchaf

Mab William a Margaret Hughes, Bryn Llys Uchaf. Yn dilyn ei addysg yn Ysgol Capel Curig, ymrestrodd i’r RWF gyda’i gymydog David Owen Roberts; gwasanaethodd y ddau ym ardal Palesteina.

> Proffil Mathew Hughes

David Owen Roberts, 4 Bryn Llys

Mab Jane Ellen Roberts, 4 Bryn Llys; bu’r teulu’n byw yn Ysgubor Wen (Capel Curig) am gyfnod cyn symud yno. Ymrestrodd gyda Matthew Hughes yn Llanrwst ar Ebrill 4ydd, 1915 — a’r ddau yn 17. Roeddent wedi dweud celwydd am eu hoedran er mwyn cael ymuno.

> Proffil David Owen Roberts

Robert Charles Williams, Tal y Waen

Ganwyd a magwyd Robert Charles Williams ar fferm Tal y Waen, Capel Curig, ond erbyn iddo ymfyddino roedd yn trigo yn Warden Street, Llanberis, gyda’i wraig Annie.

> Proffil Robert Charles Williams

Hugh Owen Griffiths, 6 Llugwy Terrace

Brodor o Lanberis symudodd i fyw i Gapel Curig at ei wraig oedd Hugh Owen Griffiths. Yn 6 Teras Llugwy fu’n byw gyda Barbara nes ymuno â’r RWF.

> Proffil Hugh Owen Griffiths

William John Hughes, 2 Tan y Fron

Y chwarelwr llechi William Hughes oedd y dyn cyntaf o Gapel Curig i golli’i fywyd yn ardal fwyaf adnabyddus a gwaedlyd y Rhyfel Mawr. Mab ydoedd i William (oedd yn chwarelwr hefyd) ac Elin Hughes, 2 Tan y Fron.

> Proffil William John Hughes

Thomas Alfred Oliver, The Studio

Gŵr yn wreiddiol o Loughborough (Swydd Gaerloyw) oedd y Capten Thomas Alfred Oliver. Symudodd i ‘The Studio’, Capel Curig, gyda’i rieni — yr artist adnabyddus Alfred Oliver a’i wraig Anne — ychydig flynyddoedd cyn ymuno â’r lluoedd arfog. Graddiodd fel peilot gyda’r Royal Flying Corps ym mis Rhagfyr 1915 a phostiwyd ef allan i Ffrainc y gwanwyn canlynol.

> Proffil Thomas Alfred Oliver