Caerhun a Dolgarrog

 

Tra bod Caerhun yn blwyf gwledig eang a gwasgaredig sy’n cynnwys pentrefi Ro- wen, Llanbedr-y- cennin, Ty’n-y- groes a Thal-y- bont; mae ei phlwyf cymdogol — Dolgarrog — yn un dra gwahanol. Datblygodd y pentref, fel y gwelid heddiw, yn sgil datblygiad y ffatri Aluminium yno yn 1907, gan uno’r ddwy gymuned fechan safai ar y ddwy afon, mewn effaith (Dolgarrog ar Afon Ddu i’r de a Phorthllwyd ar Afon Porthllwyd i’r gogledd). Rwyf wedi cynnwys y ddau blwyf o fewn yr un adran gan fod cynifer o’r bechgyn sy’n ymddangos ar gofgolofn Dolgarrog hefyd i’w gweld ar rai o’r cofebion gwahanol yng nghymunedau Caerhun. Rhwng yr holl gofebion a chofgolofnau (megis cofgolofnau Caerhun a Dolgarrog, ynghŷd â gwahanol gofebion Tal-y- bont, Llanbedr-y- cennin a Ro-wen) — ar ôl tynnu’r enwau sydd eisoes yn ymddangos mewn adrannau eraill — credaf i’r ardal golli o leiaf 39 o ddynion ac 1 ferch o ganlyniad i’r Rhyfel Mawr! Nifer anodd ei dirnad.

Rhagor o fanylion i ddilyn…