David Isaac Morris, Beudy Gwyn

Iaith: Cymraeg
Rheng a Rhif: Preifat 15275
Catrawd: RWF 10fed bataliwn
Mynwent / Cofeb: Cofeb Menin Gate, Ypres, West-Vlaanderen, Gwlad Belg (Panel 22)
Cofebau eraill: Cofgolofn Capel Garmon, Cofgolofn Llanrwst, Rôl Anrhydedd Plwyf Llanrwst, ac o bosib Cofeb Llangernyw.

Marwolaeth

Mawrth 30ain 1916 yn 23 mlwydd oed, ‘in action’ ym mrwydr ‘St Eloi Craters’. Twnelodd y Prydeinwyr o dan dir y gelyn gan danio ffrwydron; lladdodd hyn nifer fawr o Almaenwyr, a gadael craters enfawr o tua 100 llathen o ddyfnder a 500 llathen o led. Yna dechreuodd y cyrch i ennill y tir yma, yn brwydro mewn amgylchiadau ofnadwy (craters o fwd a dwr). Cymerodd y Prydeinwyr a’r Canadians y tir tyllog yma erbyn Ebrill 3ydd. Yn ystod y cyrch fwdlyd hunllefus yma disgynnodd Dafydd Isaac ar faes y gâd. Ni ddaethpwyd o hyd i’w gorff.

http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/917932/MORRIS,%20DAVID%20ISAAC

Census, 1901  +  Census, 1911

Bywyd / Cefndir:

Roedd ‘Dafydd’ Isaac yn fab i William a Margaret Morris, Beudy Gwyn, Siloam- yn un o 9 o blant. Ganed pob un o’r teulu ym mhwlyf Capel Garmon (brodyr: Evan, William, Robert John, Richard Owen a Pierce, chwiorydd: Margaret E, Maria a Hannah), a phob un yn uniaith Gymraeg.

Erbyn cyfrifiad 1911, gwelir bod William (tad Dafydd) wedi symud i ffwrdd i Dde Cymru i weithio, a Margaret yn cael ei nodi fel ‘Penteulu’.
Yn rhyfedd, Evan Morris sydd wedi arwyddo’r daflen cyfrifiad, er nad ydyw wedi ei restru arni. Er nad ydyw’n ymddangos ar gyfrifiad 1901 chwaith, brawd hŷn i Dafydd Isaac ydoedd; roedd yn gweithio yn chwarel Graig Goch Nebo. Gwasanethodd yntau yn y rhyfel hefyd, gan ddychwelyd wedi colli ei fraich.

Mae newidiadau eraill yn ymddangos ym Meudy Gwyn yn nhaflen cyfrifiad 1911- yn anffodus roedd Pierce (oedd yn fabi 6 mis oed deng mlynedd ynghynt) wedi marw yn 9 oed, a Dafydd Isaac a William wedi symud i fyw. Ymfudodd William i America, ond nad yw’n eglur i ble aeth Dafydd Isaac.
Mae o i lawr fel ‘Tŷ Canol, Siloam’ ar cofgolofn Capel Garmon, ac ar wefan y CWGC; mae sôn ei fod wedi byw yno efo un o’i chwiorydd, ond does dim tystiolaeth o hyn.
Mae yna David Morris ar gofeb Llangernyw, ac yn cael ei sôn am fel ‘gwas fferm’ oedd wedi bod yn gweithio yn yr ardal ers cyfnod; mae ymchwilwyr o Fro Cernyw wedi penderfyny bod tebygolrwydd uchel mai ein Dafydd Isaac ni ydi hwn, gan nad oes olwg ohono ym Meudy Gwyn erbyn 1911, a’i fod yn fab fferm.

Ymrestrodd yn wirfoddol yn Llanrwst unai’n hwyr yn 1914 neu’n gynnar yn 1915, a mae’n debyg y bu’n hyfforddi gyda 10fed fataliwn y RWF yn nê Lloegr (Bournmouth, Codford St Marys ac Aldershot) cyn hwylio draw i Ffrainc ar Fedi’r 27ain 1915. Bu’n gwasanethu yn ardal Ypres.

Register of Soldiers Effects D.I Morris

Death Scoll D.I Morris

Dead Man’s Penny D.I Morris

Exemption appeal Evan, brawd D.I Morris

Llun enw D.I Morris ar Gofeb Menin Gate

Memorial register