Bro Cernyw

 

Eisteddai pentrefi Gwytherin, Pandy Tudur a Llangernyw o fewn ffiniau Bro Cernyw; ardal eang ac amaethyddol yw hon hefyd, fel y mwyafrif o blwyfi sir Conwy wledig. Hyd y gwyddwn fu farw 23 o fechgyn Bro Cernyw yn y Rhyfel Mawr, a chwaraeodd nifer o ddynion eraill rannau ynddi; er gwell ac er gwaeth.
Yn ôl y Rôl Anrhydedd aeth o leiaf 24 o feibion Gwytherin i gymryd rhan yn y rhyfel; ni ddaeth chwarter ohonynt yn eu holau.
Lleolir pentref bychan Pandy Tudur ychydig yn llai na thair milltir o Wytherin a Llangernyw. Llanddewi oedd yr hen enw ar y pentref, ond newidiodd i Bandy Tudur o gwmpas dechrau’r ganrif ddiwethaf. Dywed mai ‘Pandy Budur’ yw tarddiad yr enw newydd, o ganlyniad i lygredd y felin wlân yn lliwio dŵr yr Afon Derfyn sy’n llifo drwy’r Llan!
Enwau 6 o fechgyn yr ardal sydd ar blac yng Nghapel Pandy Tudur, ond tybiwn y gellir ychwanegu ddau arall i’r rhestr yna o feirw’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw sawl trigolyn lleol, hefyd, o achos arall oddeutu ddiwedd y rhyfel a dechrau’r ‘heddwch’; manylwn ar hynny yn yr un modd. Lleolir pentref Llangernyw ar ffordd yr A548, a ger yr Afon Cledwen, rhyw hanner ffordd rhwng Llanrwst ac Abergele. Ar wal fewnol Eglwys Sant Digain, yng nghanol y pentref, ceir plac yn coffau 3 o ferched y teulu stad leol (teulu Sandbach, Hafodunnos), ynghŷd â dynion lleol a gollwyd yn y ddau ryfel byd. Mae 8 enw i’w gweld yn adran y Rhyfel Byd Cyntaf; dyma beth wyddwn am eu hanes, ynghŷd â 4 gŵr ychwanegol na’u henwir arno.

Rhagor o fanylion i ddilyn…