Betws-y-coed

 

Pot mêl twristaidd ar ‘gyffordd’ afonydd Llugwy a Chonwy yn Eryri yw Betws-y- Coed. Ceir nifer o ffermydd a phlastai yn swatio mewn ambell lannerch yn y coedwigoedd sy’n amgylchynnu’r llan. Llanfihangel y Betws oedd enw’r pentref yn y gorffennol pell, ar ôl eglwys hynafol Sant Mihangel.
Datblygodd canol yr hen bentref o gwmpas Pont y Pair yn sgil twf cymhedrol y diwydiant plwm gerllaw, yn ogystal âg ardaloedd Pentre Du a Rhiwddolion oherwydd datblygiad chwarel lechi Hafod Las. Yn 1815, adeiladwyd Pont Waterloo (pont haearn arloesol) gan Thomas Telford i gario priffordd yr A5 dros yr Afon Conwy, thrwy’r pentref, ac ymlaen i Gaergybi. Daeth hyn a llawer o ddatblygiad yn gysylltiedig â thrafnidiaeth, gan droi Betws yn ganolfan gerbydol bwysig. Yna, cyrhaeddodd y rheilffordd i Fetws-y- Coed erbyn 1868 a daeth hefyd yn gyrchfan boblogaidd i artistiaid ac ymwelwyr; tyfodd y boblogaeth yn sylweddol, ac adeiladwyd mwyafrif y gwestai a’r siopau y’i gwelir heddiw yn sgil hynny.
Ar dabled bren yn Neuadd Goffa urddasol y pentref, enwir 17 o ddynion â chysylltiad i’r fro fu gwympo yn y Rhyfel Mawr. Mae 5 ohonynt (Edward Edwards, William Jones, David Owen, Owen Roberts a David Williams) hefyd yn ymddangos ar gofgolofn y plwyf cymdogol — Capel Garmon — ac felly mae eu hanesion hwy i’w darllen yn adran Bro Garmon.

Rhagor o fanylion i ddilyn…